Oeddech chi’n rhan o’r sîn roc/pync/amgen yn y cyfnod 1970-2010?

Efallai fod eich hoff fand wedi perfformio’n gyntaf yn LePub neu eich bod chi wedi cwrdd â’ch arwr neu arwres yng Nghlwb Kensington?

Os felly, mae eich eisiau chi gan Gasglu Roc Casnewydd, y prosiect hanes cymdeithasol newydd y Neidr Nadreddog. 

Rydym ni’n chwilio am fynychwyr gigs yng Nghasnewydd yn y 70au, 80au, 90au a’r 2000au i gymryd rhan yn ein prosiect cyffrous. Rydym ni am glywed eich straeon a dysgu am eich profiadau drwy gydol y cyfnod cyffrous yma.

Rydym ni’n gweithio gydag Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd i greu casgliad o hanes roc/pync/amgen Casnewydd. Bydd yn cynnwys y pethau sy’n eich atgoffa o gerddoriaeth y cyfnod – hen docynnau, rhestri o ganeuon i’w perfformio, crysau-T y bandiau, cylchgronau ffan, gwisgoedd ac offerynnau cerdd. Dyma’ch cyfle i rannu eich trysorau â’r byd!

I rannu eich hoff stori gig cysylltwch â'r dudalen cysylltu â ni.

NRC A3 Poster background NEW CMYK C copy.jpg
 
 

I gael gwybod rhagor am brosiectau treftadaeth eraill sy’n lleol, ewch i: www.heritagefund.org.uk/in-your-area/wales neu dilynwch Gronfa Treftadaeth Loteri Genedlaethol Cymru: @HeritageFundCYM

Mae’r Neidr Nadreddog yn cydweithio ag Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd gydag arian Cronfa Dreftadaeth Loteri Genedlaethol Cymru a’r Campws Cyntaf i gynnal #NewportRockCollecting