video Block
Double-click here to add a video by URL or embed code. Learn more
 
NRC A4 colours RGB.jpg

Cymdeithasol

Mae Casglu Roc Casnewydd yn brosiect casglu cyfoes a phrosiect hanes cymdeithasol a gafodd ei greu gan y Neidr Nadreddog, gyda chefnogaeth Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd. Mae’n cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a’r Campws Cyntaf ym Mhrifysgol y De.


Atgofion

Trwy 2019 a 2020, byddwn ni’n casglu straeon a gwrthrychau o gigs Casnewydd yn y cyfnod 1970-2010 ar gyfer archif awdio ac arddangosfa newydd a fydd yn dathlu bandiau, gigs a roc yng Nghasnewydd.


Chi

Galw ar bob ffan cerddorol! Aethoch chi i gig yng Nghasnewydd yn y cyfnod 1970–2010? Rydym ni am glywed eich hanes! Rhagor o wybodaeth: www.rockcollecting.co.uk #NewportRockCollecting

 

Gan ddianc i’r nos gyda’ch clustiau yn llawn o’r gerddoriaeth fyddarol.

“Mae llawer ohonom ni’n cofio gig ffantastig, dawnsio gyda’ch cyfeillion, can o lager yn eich llaw, a’ch traed yn ceisio ymryddhau o lawr gludiog y clwb nos.
Ar ôl gweiddi nes bod eich gwddf yn brifo am un gân arall gan y band, rydych chi’n dianc i’r nos gyda’ch clustiau yn llawn o’r gerddoriaeth fyddarol.

Dwi’n cofio’r nosweithiau hynny fel ddoe – y cyffro, y wefr a phawb yn ifanc.

Bydd Casglu Roc yn dal rhai o’r atgofion hynny gan eu cadw am y dyfodol.

Dychmygwch rywun ymhen 200 mlynedd sy’n gwenu wrth edrych ar eich hen grys-T sy’n dwyn enw hen fand a’ch hen docynnau o noson yn TJ’s, Le Pub neu Glwb Kensington.”
— - Oliver Blackmore, Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd